Dr Talat Chaudhri


Cyngor Tref Aberystwyth

  • Maer Aberystwyth 2018-9, 2022-3
  • Dirprwy Faer 2017-8, 2021-2
  • Cynghorydd Tref Aberystwyth 2015+ (Penparcau 2015-17, Gogledd 2017-22, Bronglais 2022+)
  • Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol 2015-18, 2019-22
  • Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2024+
  • Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2023-4
  • Is-Gadeirydd y Pwyllgor Staffio 2023+

Penodiadau

Profiad

Mae Talat wedi gweithio mewn ystod helaeth o feysydd ieithyddol, academaidd a thechnolegol, yn bennaf yn y sector addysg uwchradd ond hefyd mewn amrywiol waith proffesiynol a thechnolegol arall. Mae ef wedi cynghori ar bolisi gwybodaeth ymchwil ar lefel strategol wladol. Mae e'n gweithio i Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd.

Mae ei PhD o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth bellach), lle derbyniodd ei radd MC. Astudiai Hanes yr Henfyd a Hanes Diweddar cyn hynny yng ngholeg Lady Margaret Hall, Prifysgol Rhydychen.

Roedd e'n Arolygydd Arholiadau Cynorthwyol ym Mhrifysgol Aberystwyth 2016-21.

Ymchwil a Dysgu

Mae ei waith academaidd a'i ddysgu yn yr Astudiaethau Celtaidd. Maes pennaf ei ymchwil yw gwreiddiau a datblygiad cynnar yr ieithoedd Brythonaidd o fewn ieitheg Indo-Ewropeaidd ehangach; mae ef hefyd yn cadw diddordeb mewn hanes, y cyfnod ôl-Rufeinaidd yn enwedig.

Mae ef wedi dysgu a darlithio mewn Gloywi Iaith (Cymraeg ysgrifenedig a phroffesiynol), Llydaweg Cyfoes, ieitheg hanesyddol a Hen Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ef hefyd wedi dysgu Cymraeg Cyfoes a Llydaweg Cyfoes i oedolion. Mae ganddo brofiad helaeth mewn caffaeliad iaith ac addysg, ieithoedd lleiafrifol, cyfieithu, a gwaith golygyddol.

Mae ef wedi cyfarwyddo ceisiadau llwyddiannus ar gyfer noddiant ôl-raddedig a doethurol, ac wedi darparu goruchwyliaeth anffurfiol a chefnogaeth olygyddol ar gyfer traethodau estynedig ôl-raddedig.

Gwyddorau Gwybodaeth

Daw ei brofiad yn y gwyddorau gwybodaeth o'i waith fel ymchwilydd ac ymgynghorydd proffesiynol ar wybodaeth ymchwil, data ymchwil a goruchwylio cyhoeddiadau. Mae ganddo arbenigedd neilltuol mewn safonau metadata, technolegau gwe semantaidd, trefniadaeth gwybodaeth, cyhoeddi academaidd a goruchwylio hawlfraint.

Mae ef wedi arwain a cyfrannu at geisiadau noddiant mawr llwyddiannus ar gyfer prosiectau gyda sefydliadau addysg uwchradd rhyngwladol a rhandalwyr masnachol mawr. Gweithiai yn UKOLN ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ef hefyd yn fedrus megis datblygwr gwe a rhaglennwr cyfrifiadurol a chanddo rychwant eang o arbenigedd technegol.

Ymwadiad

Yn anffodus ni allaf ddarparu gwasanaethau proffesiynol masnachol i'r llywodraeth leol am mai cynghorydd wyf.

 

Diweddarwyd: 11 Maw 2024

yn barod am IPv6

Dr Talat Chaudhri

Gwybodaeth Cysylltu

E-bost:

Skype:

ProffiliauAcademia.edu, LinkedIn

Dyn. Ymchwil: ORCID, ResearcherID

Allwedd PGP: 0x1A0097B6B4A58FA6

Twitter: talat