Astudiaethau Celtaidd


Mae Talat yn canoli ei waith academaidd a'i ddysgu yn yr Astudiaethau Celtaid, gan arbenigo ar ieitheg hanesyddol a'r ieithoedd Brythonaidd o fewn ieitheg Indo-Ewropeaidd ehangach.





Ymchwil

Maes pennaf ei ymchwil yw gwreiddiau a datblygiad cynnar yr ieithoedd Brythonaidd, yn enwedig morffoleg a seineg y systemau enwol, arddodiadol a berfol. Mae ef hefyd yn gweithio ar ambell agweddau eraill ar seineg, morffoleg a chystrawen hanesyddol y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg. Mae ef hefyd yn cadw diddordeb eang mewn hanes, yn enwedig yn y cyfnod ôl-Rufeinaidd. O fewn yr Astudiaethau Celtaidd, mae hyn yn gorgyffwrdd a'i ymchwil mewn meysydd megis onomasteg.

Dysgu

Mae ef wedi dysgu cyrsiau ieitheg hanesyddol, Hen Gymraeg a Llydaweg Cyfoes mewn cyd-destun academaidd. Mae ef hefyd wedi dysgu Cymraeg Cyfoes a Llydaweg Cyfoes i oedolion mewn amgylchedd anacademaidd, a Chymraeg Proffesiynol i staff prifysgol. Gall hefyd ddysgu Cymraeg Canol, Hen Lydaweg, Llydaweg Canol a phob cyfnod y Gernyweg. Mae ganddo brofiad helaeth mewn meysydd megis caffaeliad iaith ac addysg, ieithoedd lleiafrifol, cyfieithu, a gwaith golygyddol.

Goruchwylio a Noddiant

Mae ef wedi cyfarwyddo ceisiadau llwyddiannus ar gyfer noddiant ôl-raddedig a doethurol, ac wedi darparu goruchwyliaeth anffurfiol a chefnogaeth olygyddol ar gyfer traethodau estynedig ôl-raddedig. Gweler ei waith yn y Gwyddorau Gwybodaeth ar gyfer mwy o wybodaeth ar ei geisiadau noddiant llwyddiannus mwy sylweddol.

Doethuriaeth a Graddau Eraill

Mae Talat yn dal ei PhD (2007) o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth bellach), a wnaethpwyd yn Adran y Gymraeg dan oruchwyliaeth yr Athro Patrick Sims-Williams ar seineg hanesyddol y Gernyweg, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad ambell agweddau'r system gytseiniol.

Derbyniodd ei MC (2001) yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg yn yr un adran yn Aberystwyth, lle'r astudiai ieitheg hanesyddol gymharol, Hen Wyddeleg, Gwyddeleg Cyfoes a Llydaweg Cyfoes.

Astudiai Hanes yr Henfyd a Hanes Diweddar cyn hynny yng ngholeg Lady Margaret Hall, Prifysgol Rhydychen.

 

Diweddarwyd: 21 Maw 2019

yn barod am IPv6

Dr Talat Chaudhri

Gwybodaeth Cysylltu

E-bost:

Skype:

ProffiliauAcademia.edu, LinkedIn

Dyn. Ymchwil: ORCID, ResearcherID

Allwedd PGP: 0x1A0097B6B4A58FA6

Twitter: talat