Ieithoedd


Mae Talat yn siarad Cymraeg a Llydaweg yn rhugl. Mae ef wedi dysgu'r ddwy iaith ar bob lefel, yn y brifysgol ac mewn dosbarthiadau nos fel ei gilydd. Mae ef wedi dysgu Llydaweg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal a thrwy'r Saesneg. Dysgodd Gymraeg Proffesiynol i staff prifysgol, gan mwyaf i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mae e'n siarad Cernyweg adfywiedig ac mae e'n awdurdod adnabyddus mewn materion ynglŷn â'i system syllafu. Gall ef siarad a deall Ffrangeg yn dda er gwaethaf diffyg arfer.

Mae e'n gwybod nifer o ieithoedd eraill ar lefel fwy sylfaenol. Mae ef wedi dysgu Gwyddeleg Wlster a Gaeleg yr Alban fel dechreuwr. Mae iddo ryw ddeal`ltwriaeth frodorol oddefol o Wrdw a Phwnjabi ac mae ganddo frawddegau llafar. Mae e'n dal yn meddu ar ychydig o frawddegau Rwsieg sylfaenol. Fel ieithydd academaidd, mae ef wedi astudio defnyddiau dysgu Lladin, Hen Saesneg, Ffinneg, Almaeneg, Swedeg, Norwyeg a Daneg. Mae e'n dysgu Ffrangeg Normanaidd modern a Slofeneg.

Mae Talat yn aelod o Gymdeithas Cymru-Llydaw (Kevredigezh Kembre-Breizh) ers blynyddoedd, sef cymdeithas sy'n meithrin cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol rhwng Cymru a Llydaw drwy gyfrwng eu hieithoedd brodorol. Cadeirydd y gymdeithas ydyw ef, yn ogystal â chynnal ei gwefan, a'i hysgrifennydd fu gynt. Roedd ef yn ddirprwy gadeirydd Pobl Mewn Partneriaeth Aberystwyth - St Brieuc.

Mae ganddo ddiddordeb ers chwe blynedd ar hugain mewn diwylliannau lleiafrifol wedi eu hymyleiddio a'u hieithoedd, yn enwedig mewn polisi iaith.

 

Diweddarwyd: 11 Maw 2024

yn barod am IPv6

Dr Talat Chaudhri

Gwybodaeth Cysylltu

E-bost:

Skype:

ProffiliauAcademia.edu, LinkedIn

Dyn. Ymchwil: ORCID, ResearcherID

Allwedd PGP: 0x1A0097B6B4A58FA6

Twitter: talat