Dr Talat Chaudhri
Cyngor Tref Aberystwyth
- Maer Aberystwyth 2018-9, 2022-3
- Dirprwy Faer 2017-8, 2021-2
- Cynghorydd Tref Aberystwyth 2015+ (Penparcau 2015-17, Gogledd 2017-22, Bronglais 2022+)
- Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol 2015-18, 2019-22
- Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2024+
- Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2023-4
- Is-Gadeirydd y Pwyllgor Staffio 2023-4
Penodiadau
- Aelod Comisiwn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru 2022-4
- Cadeirydd Melin Drafod 2021+
Profiad
Mae Talat wedi gweithio mewn ystod helaeth o feysydd ieithyddol, academaidd a thechnolegol, yn bennaf yn y sector addysg uwchradd ond hefyd mewn amrywiol waith proffesiynol a thechnolegol arall. Mae ef wedi cynghori ar bolisi gwybodaeth ymchwil ar lefel strategol wladol. Mae e'n gweithio i Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd.
Mae ei PhD o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth bellach), lle derbyniodd ei radd MC. Astudiai Hanes yr Henfyd a Hanes Diweddar cyn hynny yng ngholeg Lady Margaret Hall, Prifysgol Rhydychen.
Roedd e'n Arolygydd Arholiadau Cynorthwyol ym Mhrifysgol Aberystwyth 2016-21.
Ymchwil a Dysgu
Mae ei waith academaidd a'i ddysgu yn yr Astudiaethau Celtaidd. Maes pennaf ei ymchwil yw gwreiddiau a datblygiad cynnar yr ieithoedd Brythonaidd o fewn ieitheg Indo-Ewropeaidd ehangach; mae ef hefyd yn cadw diddordeb mewn hanes, y cyfnod ôl-Rufeinaidd yn enwedig.
Mae ef wedi dysgu a darlithio mewn Gloywi Iaith (Cymraeg ysgrifenedig a phroffesiynol), Llydaweg Cyfoes, ieitheg hanesyddol a Hen Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ef hefyd wedi dysgu Cymraeg Cyfoes a Llydaweg Cyfoes i oedolion. Mae ganddo brofiad helaeth mewn caffaeliad iaith ac addysg, ieithoedd lleiafrifol, cyfieithu, a gwaith golygyddol.
Mae ef wedi cyfarwyddo ceisiadau llwyddiannus ar gyfer noddiant ôl-raddedig a doethurol, ac wedi darparu goruchwyliaeth anffurfiol a chefnogaeth olygyddol ar gyfer traethodau estynedig ôl-raddedig.
Gwyddorau Gwybodaeth
Daw ei brofiad yn y gwyddorau gwybodaeth o'i waith fel ymchwilydd ac ymgynghorydd proffesiynol ar wybodaeth ymchwil, data ymchwil a goruchwylio cyhoeddiadau. Mae ganddo arbenigedd neilltuol mewn safonau metadata, technolegau gwe semantaidd, trefniadaeth gwybodaeth, cyhoeddi academaidd a goruchwylio hawlfraint.
Mae ef wedi arwain a cyfrannu at geisiadau noddiant mawr llwyddiannus ar gyfer prosiectau gyda sefydliadau addysg uwchradd rhyngwladol a rhandalwyr masnachol mawr. Gweithiai yn UKOLN ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ef hefyd yn fedrus megis datblygwr gwe a rhaglennwr cyfrifiadurol a chanddo rychwant eang o arbenigedd technegol.
Ymwadiad
Yn anffodus ni allaf ddarparu gwasanaethau proffesiynol masnachol i'r llywodraeth leol am mai cynghorydd wyf.
Diweddarwyd: 28 Meh 2024
Gwybodaeth Cysylltu
E-bost:
Skype:
Proffiliau: Academia.edu,
LinkedIn
Dyn. Ymchwil:
ORCID,
ResearcherID
Allwedd PGP:
0x1A0097B6B4A58FA6
Twitter: talat